Roedd gan yr LCO iaith a gyhoeddwyd ddydd Llun ychydig bach i gynnig i’r byd technoleg:
Mater 20.1
Hybu neu hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg; a thrin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail cydraddoldeb.
…
Nid yw’r mater hwn yn cynnwys gosod dyletswyddau ar bersonau ac eithrio’r canlynol—
…
(h) personau sy’n darparu i’r cyhoedd y mathau canlynol o wasanaethau neu wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ag unrhyw rai o’r gwasanaethau hynny—
…
(iv) gwasanaethau telathrebu
…
Dehongli’r maes hwn
…
ystyr “gwasanaethau telathrebu” yw unrhyw wasanaeth sy’n cynnwys darparu mynediad at, neu gyfleusterau i wneud defnydd o, unrhyw system sy’n bod (p’un ai yn gyfan gwbl yntau’n rhannol yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall) at y diben o hwyluso trosglwyddo cyfathrebiadau drwy unrhyw fodd sy’n golygu defnyddio ynni electrig, magnetig neu electro-magnetig (gan gynnwys y cyfarpar a geir yn y system), ond nid yw’n cynnwys darlledu, radio na’r teledu.”
Difyr iawn felly. Mi fydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i bob cwmni ffôn symudol a phob darparwr rhyngrwyd sy’n gwasanaethu cwsmeriaid yng Nghymru ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs, dydy darparu modelau amlieithog ddim yn rhywbeth newydd i’r rhan fwyaf o’r cwmnïau yma gan fod y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwmnïau sydd a gweithgareddau mewn sawl gwlad yn Ewrop a thu hwnt yn barod; ac o edrych ar opsiwn ‘dewis iaith’ eich ffôn fe welwch chi fod degau o ieithoedd ar eich caledwedd yn barod felly rhywbeth syml iawn fyddai ychwanegu un bach newydd ar gyfer caledwedd newydd i’r farchnad. Sothach llwyr yw’r awgrym gan y CBI a rhai aelodau o’r Blaid Dorïaidd a’r Blaid Lafur y bydd mesur o’r fath yn gyrru’r cwmnïau yma allan o Gymru – tra bod elw i’w wneud yng Nghymru bydd y cwmnïau telegyfathrebu yn masnachu yma boed yna ddeddf iaith yn eu rhwymo neu beidio.
[Fideo: “Beth yw LCO?”]
Dwi’n cofio pasio siop Vodafon pan oeddwn ni ar fy ngwyliau yn Zakynthos, Groeg nôl yn 2003 ac roedd pob dim yn y siop yn ddwyieithog. Yn Saesneg yn ogystal a Groeg, maen debyg er mwyn gwasanaethu’r twristiaid ond dyna ni! Ond y wers yw fod y cwmnïau yma yn medru ac wedi arfer gwasanaethu eu cwsmeriaid mewn mwy nag un iaith mewn rhannau eraill o’r byd. Felly fydden nhw fawr o dro yn addasu i’r rheolau newydd yng Nghymru dwi ddim yn meddwl.
Mae modd i chi gysylltu gyda’ch AC a’ch AS er mwyn eu hannog i gefnogi’r LCO drwy ddilyn y ddolen yma.