Un o’r darlleniadau yn y llithiadur bore ‘ma yw Salm 32, dyma’r ail adnod:
“Gwyn ei fyd y sawl nad yw’r ARGLWYDD
yn cyfrif ei fai yn ei erbyn,
ac nad oes dichell yn ei ysbryd.”
Roedd “dichell” yn air anghyfarwydd i mi, “twyllo” sydd yn beibl.net, “deceit” mewn rhai cyfieithiadau Saesneg. Mae’n debyg mai’r hyn mae’r adnod yn ei ddweud yw bod y person sydd wedi adnabod ei bechod a sylweddoli ei fod wedi derbyn maddeuant yn troi cefn ar yr arfer o fod yn ddichellgar, yn stopio twyllo pobl.
Ond wrth ei ddarllen dyma fi’n pendroni sut mae pechod ei hun yn twyllo person, mae rhywbeth am y natur ddynol lle rydym yn twyllo ein hunain. Un o’r pethau gorau dwi wedi darllen am ‘bechod gwreiddiol’ oedd y llyfr ‘Chosen’ gan Giles Fraser. Yn y llyfr mae’n awgrymu fod y term ‘unoriginal sin’ yn gwneud mwy o synnwyr:
“Human beings are fundamentally broken. In other words, sin is not some secret shame but a feature of our common humanity. Original sin is badly named: it really should be called unoriginal sin because it is part of all of us, and is mostly configured in the same way. Sin is original only in terms of its origination. Properly understood, sin is Christian language for human nature.”
“The concept of original sin is often condemned as harsh and judgmental – as if to speak of human beings as ontologically sinful is somehow to rubbish them and denigrate the beauty of human life. Talk of sin instinctively feels repressive. In fact, the reverse is true. For if our wills are corrupted by Adam’s fall and human beings are congenitally incapable of moral perfection – the message of original sin – then it is a profound cruelty to require perfection of us.”
Un o’r pethau dwi wedi bod yn meddwl llawer amdano dros y misoedd diwethaf ers darllen ‘Fully Alive’ gan Elizabeth Oldfield yw sut mae’r syniad Beiblaidd o bechod mewn gwirionedd yn cynnig rhyddhad llawn gymaint â chondemniad i bobl a byd blinedig. Mae’n cynnig ffordd, iaith a fframwaith i wneud synnwyr o’n dyndod bregus.
Mae ysbryd “dichell” yn y byd, a rhan o’r twyll yna yw ein hatal rhag wynebu realiti ein dyndod bregus, a heb wynebu ein bregusrwydd (vulnerability) mae’n anodd wedyn gweld bod yr ateb tu hwnt i ni ein hunain.

