YSBRYDOLRWYDD HEDDIW A HER HANES SIMON Y DEWIN (ACTAU 8:9-25)

Roedd dweud eich bod chi’n “ysbrydol, ond ddim yn grefyddol” yn rhywbeth trendi iawn yn y cylchoedd Cristnogol lle roeddwn i’n tyfu fyny. Ar un llaw roedd e’n rhyw ymdrech i bellhau eich hun o grefydd farw a banal y rhan fwyaf o Gapeli Cymraeg. Nhw oedd y ‘crefyddwyr marw’, ond ni oedd dilynwyr Iesu “go-iawn”. O edrych nôl roedd e’n agwedd anhygoel o drahaus a hyd heddiw dwi’n edifar am yr agwedd yma. Roedd dweud eich bod yn “ysbrydol, ond ddim yn grefyddol” hefyd yn rhyw ymdrech frandio i wneud i Gristnogaeth ymddangos yn edgy a cool hefyd. Wn i ddim am lwyddiant yr ymdrech honno…

Nid oes llawer o ddiddordeb gan bobl mewn crefydd heddiw, ond mae yna ddiddordeb gan bobl o hyd mewn pethau ysbrydol. Bob hyn a hyn rydych chi’n dod ar draws erthyglau yn rhannu ymchwil sy’n dangos fod pobl yn y gorllewin, yn arbennig pobl ifanc, wedi troi cefn ar y sefydliad crefyddol a hynny yn derfynol, ond fod yna dwf mewn ysbrydolrwydd.

Mae rhywun yn gweld hynny o’n cwmpas ni heddiw ar y cyfryngau cymdeithasol, o fewn diwylliant poblogaidd a hyd yn oed o gyfeiriad y byd meddygol. Dwi’n gweld llawer o influencers ar Instagram yn steilio eu hunain fel rhyw fath o gurus ysbrydol. Ac mae mwy nag un meddyg wedi dweud wrtha i eu bod yn gweld mwy a mwy o gleifion yn dod atyn nhw am help, ond mewn gwirionedd problem neu ddiffyg cysylltiad ysbrydol sydd gan y person yn fwy na phroblem feddygol. Dyna pam fod rhai meddygon bellach yn hapus i roi’r opsiwn o gyfeirio cleifion at eglwysi (a hefyd mudiadau/elusennau digrefydd wrth gwrs) weithiau fel rhan o’u strategaeth presgripsiwn cymdeithasol. 

Hyd yn oed mewn cymdeithas ôl-grefyddol ac ôl-Gristnogol mae’n ddiddorol nodi fod y rhan fwyaf o bobl dal yn adnabod rhyw itch ysbrydol sydd angen ei grafu. Oes mae gyda chi ambell i Richard Dawkins think-a-like sy’n ceisio gwadu bodolaeth y byd ysbrydol, ond dwi’n meddwl mai lleiafrif sy’n meddwl fel yna. Mae y rhan fwyaf o bobl dal yn agored yn ysbrydol hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael llond bol ar grefydd gyfundrefnol. A dwi ddim yn ei beio nhw, mae’r sefydliad crefyddol yn torri fy nghalon i hefyd, dyna un rheswm pam mod i wedi fy ngalw dwi’n meddwl i fod yn Weinidog – er mwyn helpu pobl i gymryd golwg newydd ar Iesu a’r eglwys.

Oherwydd ein cyd-destun diwylliannol ac ysbrydol ni heddiw dwi’n meddwl fod hanes Simon y Dewin o Actau yn arbennig o ddifyr, cyffrous a perthnasol. Mae’n dangos y cyfleoedd a’r peryglon sy’n dod o gael diddordeb mewn pethau ysbrydol.

NID AUR YW POPETH MELYN (ACTAU 8:9-11)

Y cyd-destun yw bod Philip – un o arweinwyr cyntaf yr Eglwys Gristnogol – wrthi yn rhannu’r newyddion da am Iesu yn Samaria. Mae’n cyfarfod dyn o’r enw Simon sy’n ‘ddewin’, neu ‘dyn hysbys’, neu be fyddai rhai diwylliannau yn ei alw: ‘gwrach’. Roedd e’n ddyn a pheth enwogrwydd yn lleol ac roedd ganddo feddwl mawr o’i hun. Roedd pobl yn arfer teithio i’w weld ac i brofi ei hud a’i ledrith. Nid ydym yn cael gwybod yn iawn beth roedd e’n gwneud na beth oedd ei allu a’r gwasanaeth roedd e’n cynnig i bobl. Ond mae rhywun yn casglu ei fod e’n honni fod e’n gallu cysylltu pobl gyda’r duw oedd yn cael ei adnabod fel “Yr Un Pwerus”.

Efallai roedd pobl yn mynd ato i geisio cael eu hiachau? Eraill yn mynd ato i geisio cyfathrebu gyda phobl oedd wedi marw? Rhai eisiau gweld i mewn i’r dyfodol? Dwi ddim yn gwybod a dydy’r adnodau ddim yn ymhelaethu.

Mae yna idiom dda Gymraeg: nid aur yw popeth melyn. Hynny yw, jest oherwydd ei fod e’n edrych fel un peth dydy e ddim yn golygu mai dyna beth ydy e. Ac mae’r idiom yna yn siarad gwirionedd am bethau ysbrydol ac ysbrydolrwydd. Does gan Gristnogaeth ddim defnydd egsliwsif dros iaith, arferion, defodau na hyd yn oed pwerau ysbrydol. Ac felly, dydy popeth ysbrydol ddim o’r rheidrwydd yn dod o nac yn ein harwain at Iesu.

Felly er bod yna fanteision i fyw mewn cyfnod pan mae pobl yn agored yn ysbrydol, mae yna beryglon hefyd. Er bod rhywun yn deall pam fod rhai Cristnogion yn hoffi dweud eu bod nhw’n “ysbrydol, ond ddim yn grefyddol”, mae angen rhywfaint o esbonio beth mae rhywun yn ei olygu wrth ddweud eu bod nhw’n ‘ysbrydol’.

I’r Cristion diben bywyd ysbrydol ac ysbrydolrwydd yw rhoi cyfle i bobl brofi ac adnabod y Duw sydd wedi datguddio ei hun yn fwyaf clir i ni yn Iesu Grist. Dydy bod yn ysbrydol a chael diddordeb mewn ysbrydolrwydd ynddo fe ei hun ddim yn datgloi pwrpas bywyd. Nid yw cael diddordeb mewn pethau ysbrydol ac ysbrydolrwydd mewn-ddrychol, neu navel-gazing ysbrydol, yn rhoi’r atebion sy’n datgloi pwrpas bywyd i ni. Yr hyn sydd ei angen yw ysbrydolrwydd sy’n troi ein meddwl, calon a’n llygaid o’r hunan tuag at y Duw sydd wedi datguddio ei hun i ni yn Iesu Grist.

Drwy gau ein llygaid ac agor ein henaid rydym ni’n gallu cyfarfod, profi ac adnabod Iesu Grist. Yn Iesu mae’r byd ysbrydol a’r byd naturiol yn dod yn un.

Felly fel Cristnogion rydym yn agored yn ysbrydol ac mae gyda ni dir cyffredin da a gwerthfawr gyda phobl eraill sy’n agored yn ysbrydol. Does dim angen i ni fod ofn pethau fel mindfulness, therapi ac ati – mae pethau felly yn gallu helpu’r Cristion fel pawb arall. Ond dydy ymgolli mewn ysbrydolrwydd methu bod yn ddiben ynddo fe ei hun. Yn hytrach mae’n fodd o weld a chysylltu gyda’r Duw sydd wedi datguddio ei hun yn fwyaf clir i ni yn Iesu Grist.

NEWYDDION GWELL IESU (ACTAU 8:12-13)

A dyna rydym ni’n ei weld yn hanes Simon y Dewin. Mae’r hanes yn adrodd fod rhai o bobl Samaria, gan gynnwys Simon y Dewin ei hun, wedi dod i gredu. Mewn geiriau eraill, maen nhw wedi ffeindio rhywle cadarn i lanio eu hysbrydolrwydd. Dyma nhw’n gweld yn Iesu Grist a’i Deyrnas rhywle lle’r oedd eu hanghenion corfforol, meddyliol ac ysbrydol yn ffeindio heddwch. Roedd eu syched ysbrydol bellach wedi ei dorri.

Roedden nhw wedi bod yn chwilio a thrio torri eu syched yn yr ysbrydolrwydd roedd Simon wedi bod yn ei ‘berfformio’. Ond bellach, roedden nhw wedi gweld a chredu rhywbeth gwell. Mae rhywun yn dychmygu’r bobl yma yn Samaria yn profi rhywbeth tebyg i’r hyn sy’n cael ei fynegi yn yr hen emyn:

Er chwilio’r holl fyd a’i fwyniant i gyd
nid ynddo mae’r balm a’m hiacha;
ond digon im yw yr Iesu a’i friw,
fe’m gwared o’m penyd a’m pla.

THOMAS JONES, 1769-1850

Ar ôl bod yn chwarae a phethau ysbrydol mewn-ddrychol – fe gredodd pobl Samaria fod y gwir gyfoeth ysbrydol i’w gael tu allan i’r hunan drwy edrych at Iesu.

CREDU HEB DDERBYN PŴER YR YSBRYD GLÂN (ACTAU 8:14-17)

Mae y rhan nesaf o’r hanes yn ddifyr ond hefyd yn rhan sy’n rhaid ei drin yn sensitif. Yn ôl yr hanes mae’r bobl yma yn Samaria wedi credu yn Iesu, ond ddim eto wedi profi’r Ysbryd Glân.

Mae cam-ddehongli a cham-gymhwyso’r hanes yma wedi arwain at sefyllfa lle mae Cristnogion a phrofiadau ysbrydol gwahanol yn gallu cam-ddeall ei gilydd. Mewn nifer o eglwysi a thraddodiadau dros y blynyddoedd mae hyn wedi cymell rhai Cristnogion i wthio Cristnogion eraill i geisio’r union run profiadau a nhw, ac yn ei dro Cristnogion sydd heb gael profiadau mor weledol a dramatig efallai i deimlo’n israddol. Athrawiaeth wael o gwmpas y pethau yma sydd wedi arwain at y syniad anghywir fod yna Gristnogion dosbarth cyntaf ac ail-ddosbarth.

Problem arall sy’n gallu codi fan hyn yw bod rhai Cristnogion yn methu ffeindio bodlonrwydd yn eu bywyd Cristnogol (Christian contentment) oherwydd eu bod nhw’n chwilio’n barhaus am ryw brofiad mwy a gwahanol o Dduw.

Fodd bynnag, does dim modd gwadu fod profiad pobl o Dduw a’i ysbryd yn digwydd mewn gwahanol donau ac mewn ffordd wahanol ar amseroedd gwahanol ar hyd taith bywyd a ffydd. Ac mewn gwirionedd dyma oedd fy mhrofiad personol i.  

Dwi byth wedi peidio credu mewn Duw, felly ar ryw wedd roedd ffydd yn rhywbeth roeddwn i wedi ei etifeddu. Ond dwi’n cofio pan roeddwn i yn fy arddegau clywed mab i Weinidog yn dweud nad oedd e’n Gristion, ac fe wnaeth hynny argraff ddofn arna i. Dyna’r foment y gwnes i sylwi fod rhaid i ffydd fod yn rhywbeth ac yn benderfyniad personol roeddwn i’n cymryd drosof fy hun. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn o’r ffydd roeddwn i wedi ei etifeddu – ond roedd rhaid i mi ei hawlio nawr fel ffydd bersonol i fi, a dyna wnes i.

Ond pan roeddwn ychydig yn hŷn roeddwn i mewn lle tebyg iawn i’r Samariaid yn y stori yma dwi’n meddwl. Yn credu – roeddwn i yn Gristion – ond dwi ddim yn siŵr wrth edrych yn ôl a oeddwn i wedi derbyn yr Ysbryd Glân? Os oeddwn i wedi ei dderbyn roeddwn i’n sicr heb ei brofi’n llawn. Fedra i ddim pwyntio at unrhyw ddyddiad, lleoliad ac amser penodol lle wnes i gael fy “llenwi gyda’r Ysbryd Glân” am y tro cyntaf. A ‘sgen i yn bersonol ddim profiad o siarad mewn tafodau a phethau felly. Ond yn sicr fedra i dystio mod i wedi profi ton newydd a dyfnach o waith ac ysbryd Duw yn fy mywyd na’r don flaenorol pan wnes i’r penderfyniad o gredu yn gyntaf.

Ydy fy narlleniad o Actau a fy mhrofiadau i fy hun yn golygu mod i’n credu yn athrawiaeth ail fedydd yr Ysbryd Glân? Wn i ddim, ond dwi yn credu fod ein profiadau o Dduw a’i ysbryd yn digwydd mewn tonau trwy ein bywyd.

NID HUD A LLEDRITH YW GWAITH DUW (ACTAU 8:18-23)

Yr hyn sy’n digwydd nesaf yw tro reit sinistr sef fod Simon y Dewin yn cael ychydig o relapse ac yn mynd yn ôl i’w hen ffyrdd. Mae e’n gweld, profi a thystio i rym yr Ysbryd Glân. Ac mae’n gweld y ffordd roedd yr apostolion yn arddodi dwylo ar bobl wrth iddyn nhw dderbyn yr ysbryd. Dyma Simon yn gofyn i’r Apostolion am gael dysgu’r tric hefyd! Nid yn unig hynny, ond mae’n cynnig arian iddyn nhw am rannu sut i gyflawni’r tric!

Ac, fel mae rhywun yn disgwyl, mae Pedr yn ateb Simon yn syth gyda geiriau cadarn iawn: “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.” (Actau 8:20-21)

Beth ‘da ni’n gweld fan hyn ydy enghraifft gynnar o rywbeth, yn anffodus, sydd wedi dod yn epidemig yn yr eglwys Gristnogol gyfoes sef yr heresi fod gwaith yr Ysbryd Glân yn fformiwla y gellid ei atgynhyrchu ac yn fendith y gellid ei brynu. Mae rhai yn ei alw yn ‘Prosperity Gospel’, eraill yn ei alw yn ‘Health & Wealth’.

Dwi ddim am enwi enwau ond mae sawl rhan o’r eglwys Gristnogol heddiw yn llawn pobl fel Simon y Dewin. Charlatans sy’n slic iawn eu geiriau, efallai yn bobl sydd yn “ysbrydol” a hyd yn oed yn cyflawni be fyddai rhai yn adnabod fel ‘gwyrthiau a rhyfeddodau’ a hynny yn enw Iesu. Ond cofiwch yr hen idiom: nid aur yw popeth melyn.

Yn aml bydd gweinidogaethau’r bobl yma o edrych tu ôl i’r llenni yn edrych mwy fel multi-million pound busnes empire nag eglwysi Cristnogol. Gwae ni rhag syrthio i’r trap o feddwl mai fformiwla neu eiriau hud, neu ddefod i’w atgynhyrchu yw’r Ysbryd Glân. A gwae ni rhag ein hudo i feddwl fod bendith Ysbrydol yn rhywbeth y gellid ei brynu gydag arian a dylanwad.  

SIMON YN SORI (ACTAU 8:24)

Ond mae’r hanes sydd gyda ni heddiw yn gorffen ar nodyn mwy gobeithiol. Yn gyntaf, mae’n ymddangos fod Simon y Dewin yn gweld ei ddrygioni ac yn edifarhau: “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti’n ei ddweud yn digwydd i mi.” Yn hytrach na mynd yn amddiffynnol, mae’n ymddangos ei fod yn gwrando ar rybudd Pedr ac mae’n gofyn i Pedr weddïo gyda fe.

Er fy mod i, gobeithio, ddim wedi mynd cweit i run twll a Simon y Dewin – dwi wedi bod ar rywfaint o daith dros y flwyddyn ddiwethaf o ail-asesu fy mlaenoriaethau ac ail-asesu sut dwi wedi bod yn arwain yr eglwys. Dwi wedi dod i weld mod i wedi rhoi gormod o bwyslais ar ein hymdrech NI, ein rhaglen NI a’n gweledigaeth NI. Wedi bod yn ceisio efelychu fformiwlas a phethau sydd wedi ‘gweithio’ efallai mewn cyd-destun ac eglwysi eraill – eglwysi mawr dosbarth canol Saesneg falle, ac wedi trio efelychu hynny yma yng Nghaernarfon Gymraeg dlawd. 

Roedd y pwyslais yma yn fy arwain i ac eraill yn yr eglwys at ddisgwyliadau afrealistig ac anghywir oedd wedyn yn arwain at siom a burn out. Felly, ar ryw wedd, fel Simon y Dewin: dwi’n edifarhau.

Yn y tymor yma nawr dwi’n barod i roi fy syniadau, fy nghynlluniau a fy fformiwlas i i lawr. A dwi’n ceisio Cristnogaeth fwy syml unwaith eto gan adael, gobeithio, i Ysbryd Duw wneud fel y mynno yn ein plith. Oherwydd fel mae’r hanes yma yn dangos nid hud a lledrith yw’r efengyl Gristnogol, nid fformiwla na bendith y gellid ei brynu, ond grym a phŵer Duw ar waith.

Da ni angen camu nôl i adael i Dduw wneud y gwahaniaeth.

Please follow and like us: