Ar ôl degawd o ymgyrchu caled roedd gweld yr hysbyseb yma yn fy atgoffa fod ymgyrchu di-flino yn gweithio ac fod ymgyrch yn rhywbeth sy’n rhaid ymroi iddo fe am flynyddoedd, deg yn yr achos yma, er mwyn cael y maen i’r wal. Dwi’n meddwl mae yn 2001 es i brotest gyntaf yn galw am fwy o addysg Gymraeg yn y Prifysgolion ac erbyn 2011 bydd y Coleg wedi ei lansio. Llongyfarchiadau i bawb fuodd yn rhan o’r ymgyrch dros y ddegawd diwethaf – a stwffio chi ddywedodd ein bod ni’n afresymol ac yn gofyn am yr amhosib!
Hir oes i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (enw newydd, a gwell, y Coleg Ffederal Cymraeg)!
Ie, mae hyn yn newyddion calonogol Rhys. Rhaid dathlu buddugoliaethau yn ogystal ag ymgyrchu yn erbyn camweddau.