Ffydd · Cymru · Gwleidyddiaeth
Cenedlaetholdeb Cristnogol yng Nghymru
Ymchwil ac ysgrifau Rhys Llwyd ar y berthynas rhwng ffydd Gristnogol, hunaniaeth Gymreig a chenedlaetholdeb.
R. Tudur Jones (1921–1998)
Roedd R. Tudur Jones yn un o ddiwinyddion a haneswyr eglwysig amlycaf Cymru’r ugeinfed ganrif. Bu’n Brifathro Coleg Bala-Bangor, yn awdur toreithiog ac yn ffigwr dylanwadol ym mywyd crefyddol a gwleidyddol Cymru.
Roedd ei genedlaetholdeb wedi’i wreiddio yn ei ffydd Gristnogol. I Tudur Jones, nid mater gwleidyddol yn unig oedd cenedlaetholdeb, ond cwestiwn diwinyddol am ddiwylliant, cymuned, cyfiawnder ac urddas pobl.
Yn 2011 cyflwynais ddoethuriaeth i Brifysgol Bangor ar genedlaetholdeb Cristnogol R. Tudur Jones. Datblygodd yr ymchwil hwnnw yn lyfr ac yn nifer o ysgrifau eraill.

Dau draddodiad gwahanol
Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng traddodiad Cymreig cenedlaetholdeb Cristnogol a’r mudiadau a elwir yn Christian Nationalism heddiw, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau a Lloegr. Datblygodd y traddodiad Cymreig yng nghyd-destun cenedl leiafrifol, gan bwysleisio iaith, diwylliant, urddas a chyfiawnder cymdeithasol.
Ond nid yw unrhyw genedlaetholdeb y tu hwnt i feirniadaeth Gristnogol. Dylai ffydd herio grym gwleidyddol, nid cael ei defnyddio i’w gyfiawnhau.
Fy nghyhoeddiadau
Pum cyhoeddiad
Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones
Addasiad o’m hymchwil doethuriaethol sy’n edrych ar wreiddiau diwinyddol cenedlaetholdeb R. Tudur Jones a’i gyfraniad i feddwl gwleidyddol Cymru.
Plaid Cymru, Welsh Nationalism and Christianity: A Historical Perspective
Papur ar berthynas hanesyddol Cristnogaeth â chenedlaetholdeb Cymreig a Phlaid Cymru, a gyhoeddwyd gan Kirby Laing Institute for Christian Ethics.
Faith and the Crisis of a Nation
Ysgrif a gyhoeddwyd gan y Centre for the Study of Bible and Violence, yn archwilio ffydd a hunaniaeth genedlaethol.
Cenedlaetholdeb Gristnogol: Cyllell dau finiog?
Gwersi o’r traddodiad Cymreig a her wahanol y ffenomenon heddiw. Papur a gyhoeddwyd gan Cytûn.

Don’t Say Hiraeth: Faith, Identity and a Changing Wales
Myfyrdod personol ar ffydd, diwylliant, hunaniaeth a’r Gymru sy’n newid. Llyfr mwy personol na’r ymchwil academaidd.
Dyluniadau darluniadol yn unig yw delweddau’r papurau a’r ysgrif; nid cloriau swyddogol mohonynt.
Faith · Wales · Politics
Christian Nationalism in Wales
Research and writing by Rhys Llwyd on the relationship between Christian faith, Welsh identity and nationalism.
R. Tudur Jones (1921–1998)
R. Tudur Jones was one of Wales’s leading twentieth-century theologians and church historians. A former Principal of Bala-Bangor Theological College, he was a prolific author and an influential figure in Welsh religious and political life.
His nationalism was rooted in his Christian faith. For Tudur Jones, nationalism was not simply a political matter, but a theological question concerning culture, community, justice and human dignity.
In 2011 I completed a doctorate at Bangor University examining R. Tudur Jones’s Christian nationalism. That research developed into a book and several further publications.

Two very different traditions
It is important to distinguish the Welsh tradition of Christian nationalism from movements using the label Christian Nationalism today, particularly in the United States and England. The Welsh tradition developed in the context of a minority nation, emphasising language, culture, dignity and social justice.
Yet no form of nationalism should be beyond Christian criticism. Faith should challenge political power, not become a means of justifying it.
My publications
Five publications
Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones
Based on my doctoral research, this book examines the theological foundations of R. Tudur Jones’s nationalism and his contribution to Welsh political thought.
Plaid Cymru, Welsh Nationalism and Christianity: A Historical Perspective
Explores the historical relationship between Christianity, Welsh nationalism and Plaid Cymru. Published by the Kirby Laing Institute for Christian Ethics.
Faith and the Crisis of a Nation
Published by the Centre for the Study of Bible and Violence, exploring questions of faith and national identity.
Christian Nationalism: A Double-Edged Sword?
Lessons from the Welsh tradition and the very different challenge of contemporary Christian Nationalism. Published through Cytûn.

Don’t Say Hiraeth: Faith, Identity and a Changing Wales
A personal exploration of faith, chapel culture, identity and a changing Wales, written for a wider audience beyond academic research.
Paper and article graphics are illustrative designs, not official publication covers.