Daeth plant Ysgol Llanllyfni a rhai o drigolion y cylch ynghyd yn ddiweddar i nodi carreg filltir arbennig wrth ddathlu 200 mlynedd ers sefydlu Capel Ebeneser, Felin Gerrig. Roedd y dathliad yn cynnwys cyfraniadau gan blant Clwb Splash, clwb Cristnogol sy’n cyfarfod ar ôl ysgol yn neuadd Ysgol Llanllyfni bob nos Lun, ynghyd â myfyrdodau gan y Parch. Rhys Llwyd a Hannah Smethurst ar ystyr yr enw Ebeneser – “carreg i gofio” – sy’n tarddu o 1 Samuel 7:12 – “Mae’r ARGLWYDD wedi’n helpu ni hyd yma.”
Gan ddefnyddio carreg fel symbol, cafwyd cyfle i adrodd stori Samuel a chysylltu’r neges â hanes Dyffryn Nantlle, lle bu cenedlaethau’n gweithio yn y chwareli ac yn trin y garreg fel rhan o’u bywyd bob dydd. Pwysleisiwyd fod y garreg yn y Beibl yn fwy na gwrthrych; mae’n arwydd o ffyddlondeb Duw a’i gymorth dros y cenedlaethau.
Yn ystod y gwasanaeth arweiniodd Trey McCain a’r plant y gynulleidfa mewn caneuon, a daeth y dathliad i ben drwy ganu emyn gan y gweinidog enwog Robat Jones, Llanllyfni, gan gofio ei gyfraniad i fywyd y capel a bywyd crefyddol a diwylliannol Cymru yn gyffredinol.
Wrth gloi, atgoffwyd y gynulleidfa mai nid yr adeilad ei hun yw gwir ystyr Ebeneser, ond y ffydd Gristnogol sydd wedi cynnal y capel a’r aelodau ers dwy ganrif, a’r gobaith sydd, yn ôl aelodau’r eglwys, i’w gael yn Iesu Grist hyd heddiw.
Rhyfedd meddwl fod capeli eraill Llanllyfni wedi hen gau, y chwareli wedi syrthio’n dawel a’r enwog Quarry Mans Arms wedi ei dymchwel, ond y “capel bach” yn Felin Gerrig yn parhau i addoli.

