Maen hen bryd i mi ysgrifennu adolygiad o fy ffôn newydd, yr iPhone 3G, ar y blog ‘ma felly dyma hi. Dwi wedi cael y ffon ers bron i 2 fis yn barod ond dim ond ers rhyw dair wythnos dwi’n ei defnyddio hi ‘go-iawn’ oherwydd am rai wythnosau ar ôl cael gafael ar yr iPhone roedd rhai wythnosau gyda fi redeg allan ar fy hen gytundeb da Three. A dyna dwi am drafod gyntaf.
Cytundeb egsgliwsif O2
Â
Mae cwmni Three wedi fy nhrin i’n dda iawn dros y blynyddoedd diwethaf i’r graddau mod i ar gytundeb oedd werth £45 y mis erbyn y diwedd er mae dim ond £30 roeddwn ni’n gorfod talu oherwydd fy “ffyddlondeb”, felly nid oedd hi’n benderfyniad hawdd gadael Three ac ymuno ac O2 er mwyn cael yr iPhone. Roedd signal heb ei ail gan Three gan gynnwys cyswllt 3G cyson dros Gymru er mwyn syrffio’r wê ac estyn fy ebost ar y ffon. Fodd bynnag gadael Three wnes i a throi at O2. Y peth cyntaf i nodi oedd problem argaeledd yr iPhone gan O2, roedd yn broblem arbennig i mi oherwydd fod fy nghytundeb gyda Three ar fin dod i ben, roedd rhaid i mi ffeindio iPhone neu buasw ni heb ffon am rai wythnosau rhwng fy nghytundeb Three a chael yr iPhonenol mewn stoc. Dyna sydd i esbonio pam roedd rhaid i mi brynu’r iPhone rai wythnosau cyn i mi allu dechrau ei ddefnyddio go iawn – pan ddois ar draws un heb ei werthu yn Carphone Wearhouse Aberystwyth roedd rhaid i mi ei brynu yn y fan ar lle neu fe allwn ni fod wedi syrthio i mewn i’r trap o beidio medru ffeindio un a fy nghontract Three wedi rhedeg allan = dim ffôn! Fe ddywedodd y ddynes yn y siop wrtha i mod i’n llythrennol wedi prynu’r iPhone olaf oedd mewn stoc drwy Brydain i gyd a bod ei chyfrifiadur hi’n dangos hynny  – claim to fame felly.
Roedd y broses o arwyddo fyny i’r cytundeb yn siop y Carphone Wearhouse yn llafurus a hir yn ogystal a chostus. Yn ogystal a gorfod talu £99 am y ffon, cost roeddwn yn ymwybodol ohoni ymlaen llaw roedd O2 eisiau taliad y 3 mis cyntaf ymlaen llaw! Felly yn y fan a’r lle roedd rhaid i mi dalu £204 – roedd hyn yn dolc ar y dydd ond amwni yn yr hir dymor dwi ddim yn talu mwy na fuasw ni beth bynnag gan fod y Direct Debit ddim yn cicio fewn tan pedwaredd mis y cytundeb.
Roedd Three ac O2 yn dda iawn gyda mi yn ystod y broses o drosglwyddo fy rhif draw i’r iPhone. Gallai Three wedi gwneud pethau yn haws drwy beidio ceisio cynnig y byd i mi aros gyda nhw ond dyna ni. Rhwng derbyn y PAC (Port Authourization Code) gan Three ac yna medru defnyddio’r iPhone go-iawn gymerodd y broses rhyw 5 diwrnod.
Â
Cyn symud mlaen i drafod y ffon ei hun maen werth nodi mod i wedi siomi gyda signal O2. Mae’r signal dipyn salach na Three yn enwedig y rhwydwaith Edge a 3G, y rhwydweithiau angenrheidiol i syrffio’r we yn hwylus ar yr iPhone. Yn y mis diwethaf anfynych iawn dwi wedi medru defnyddio’r rhwydwaith 3G ar yr iPhone, mae yna 3G yng nghanol tref Aberystwyth a rhannau o dref Bangor. Tra yn steddfod yng Nghaerdydd wnes i weld y rwydwaith yn dameidiog yn fan yna hyd yn oed, yn y brif ddinas. Ond maen ymddangos mae nid problem Gymreig o’r rheidrwydd yw hyn oherwydd pan i ffwrdd yn Swydd Rydychen wythnos diwethaf ddois i ddim ar draws rhwydwaith 3G yn nunlle ddim hyn yn oed yng nghanol dinas Rhydychen ei hun. I gyfiawnhau y ffaith eu bod nhw wedi cael cytundeb ecsgliwsif i redeg yr iPhone ym Mhrydain mae angen i O2 wella safon eu rhwydwaith 3G ar fyrder.
Â
Wel mae’r adolygiad yma yn un hir yn barod a dwi heb ddechrau trafod y ffôn ei hun, gwell dychwelyd at yr adolygiad yn y blogiad nesa felly. Â
Ddim sariad gymraeg, but if I get the gist of it, something to do with transferring the iPhone to 3?
You can transfer your number and end your contract (prematurely = £££ sadfaces) but as soon as the iPhone 3G is unlocked it’d be interesting to find out if it works on the 3 network. The current iPhone 2G will not work on the 3 network even when it’s been unlocked (I have tried :/)