Mae Dyfrig Jones (Golygydd bARN) ar ei flog ‘answyddogol’ yn datblygu i fod yn aelod mainc gefn tra effeithiol i Blaid Cymru yn fy nhyb i. Mae Dyfrig fel y fi a llawer o’m cyfeillion yn parhau i fod yn aelodau o’r Blaid ond wedi llawn ddeall erbyn hyn fod rheolau’r gêm wedi newid. Mae dyddiau amddiffyn y Blaid doed a ddelo “er budd y genedl” wedi hen basio a hynny oherwydd fod y Blaid bellach mewn llywodraeth. Anghyfrifol, an-nemocrataidd ac yn sicr ang-Nghristnogol, a dweud y lleiaf, yw amddiffyn unrhyw Blaid doed a ddelo os yw’r Blaid honno mewn llywodraeth ac yn hynny o beth rwy’n gwerthfawrogi safiad ac arweiniad Dyfrig yn arbennig felly gan ei fod yn newyddiadurwr blaenllaw hefyd yn nhraddodiad anrhydeddus Alwyn D. Rees.
Yr achos diweddaraf i Dyfrig godi yw’r busnes yma o jerimandro y broses o ddewis pwy aiff ar frig rhestr y Blaid yn etholiadau Senedd Ewrop flwyddyn nesaf. Fe gred Dyfrig fod yna faias wrth-Gwynedd ac wrth-pleidlais draddodiadol y Blaid yn perthyn i’r broses o ddewis ymgeisydd y Blaid. Er enghrifft mae gan Blaid Cymru tua 1,500 a aelodau yn Meiron-Dwyfor ond ni fydd hustuings a chyfle i bledleisio yn yr ardal yma ac mi fydd rhaid i’r aelodau, llawer yn oedranus maen siŵr, deithio awr a mwy i Aberystwyth neu Fangor i Bleidleisio – rhywbeth, wrth gwrs, nad ydy trwch helaeth o’r 1,500 mynd i allu gwneud. Mi fydd hyn wrth gwrs yn ymddieithrio llawer o’r aelodau a’r cefnogwyr draddodiadol o’r broses ddewis.
Diolch am dynny sylw at hyn Dyfrig.
Ti’n llawer iawn rhy garedig efo fi, Rhys. Ond diolch beth bynnag am dy sylwadau caredig.